TySiamasorSgwar.jpeg
adloniant3.jpeg
Pic9.jpeg
20180214_214224
SesiwnIoanRhagfyr.jpeg
YBarynNhySiamas.jpeg
Pic11.jpeg
20180211_121026_001
IMG_0583.jpeg
AndaUnionynyrawditoriwm.jpeg
Mae Tŷ Siamas wedi ei leoli yn un o brif adeiladu tref hynafol Dolgellau, Meirionnydd. Agorwyd Canolfan Tŷ Siamas yn 2007 yn dilyn derbyn grantiau Ewropeaidd i drawsnewid adeilad oedd yn brysur ddafeilio yn ganolfan amlbwrpas, fodern. Dros y degawd mae’r Ganolfan wedi llwyfannu degau o berfformiadau byw gan artistiaid o Gymru a’r byd. Defnyddiwyd ein hadnoddau recordio i greu dwy ‘CD y flwyddyn’ gan Plu a Candelas. Cynhelir gwersi offerynnol wythnosol ar amryw o wahanol offerynnau.
Hanes yr Adeilad
Oes Fictoria
Codwyd yr adeilad mawreddog sydd yn gartref i Dŷ Siamas oddeutu 1870 ar hen safle farchnad sgwâr Dolgellau. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol fel Neuadd Farchnad ac Ystafelloedd Ymgynnull yn oes Fictoria. Nid oes gwybodaeth ar gael ynghylch pwy gynlluniodd yr adeilad, ond mae rhai yn tybio mai pensaer Eidalaidd a’i lluniodd, oherwydd y bwâu nodedig sydd ar hyd ddwy ochr gyhoeddus yr adeilad – yr ochrau dwyreiniol a deheuol. Heddiw mae yna rodfa yn mynd ar hyd yr ochrau yma, ond mae’n bur debyg nad oedd y rhain yn rhan o’r cynllun gwreiddiol, am fod yna olion muriau ar hyd ochrau y bwâu. Mae yna hefyd luniau ar gael o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif yn dangos gatiau yn hongian oddi ar fwâu ochr ddeheuol yr adeilad.Dechrau'r 20fed Ganrif
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd yr adeilad i storio grawn. Yna, yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd dechreuwyd ei ddefnyddio fel sinema. Mae’n bur debyg mai’r adeg yma y codwyd y galeri ar ochr ddwyreiniol yr adeilad, gyda ystafell gyfarfod ar yr ail lawr. Efallai i’r adeilad golli ei ddefnydd fel Neuadd Farchnad tua’r adeg yma.1949
Ym 1949 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau. Dyna pryd y newidiwyd yr enw yn Neuadd Idris. Cafwyd tipyn o ddatblygiadau yn yr adeilad wrth baratoi at yr Eisteddfod. Mae’n debyg mai tua’r adeg yma y codwyd y grisiau llydan nodedig sydd yn eich croesawu wrth ichi fynd i mewn i’r adeilad. Cafwyd hefyd lwyfan newydd ar ben gorllewinol yr adeilad, mynedfeydd newydd i’r brif Neuadd, a thoiledau newydd ar y llawr gwaelod, ynghyd â newidiadau eraill.50au - 90au
Am weddill yr 20fed Ganrif defnyddiwyd y neuadd ar gyfer dawnsfeydd. Yn ystod y 50au a'r 60au roedd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer dawnsio gwerin ac o'r 70au datblygodd yn ganolfan ar gyfer discos, gigs a chyngherddau. Roedd gŵyliau drama yn ddigwyddiadau poblogaidd yn ystod y 60au a'r 70au a cynhaliwyd llaweroedd o gyfarfodydd gwleidyddol a chyhoeddus yma gan fod Dolgellau yn brif dref yr hen Sir Feirionnydd. Cynhaliwyd rhai o weithgaeddau'r Sesiwn Fawr gyntaf yn yr adeilad yn 1992. Ni ddefnyddiwyd yr adeilad wedi Awst 2000 pan gynhaliwyd y digwyddiad olaf yn y neuadd, yn addas iawn 'Last Waltz.' Defnyddiwyd yr adeilad ar gyfer ffilmio Eldra ar gyfer S4C ond ni ddefnyddiwyd gan y cyhoedd tan i Dŷ Siamas gael ei agor ym Mehefin 2007Pam "Siamas"?
Elis Siôn Siamas Pwy oedd y dyn y mae ei enw wedi’i goffáu yn Nhŷ Siamas? Er bod enw Elis Siôn Siamas o Lanfachreth yn fyw o hyd, ychydig iawn a wyddom am y dyn na’i waith. Mae’n amlwg ei fod yn delynor adnabyddus o statws. Mewn hanes gan Iolo Morgannwg (m.1826) am ymweliad â thafarn y Llew Aur yn Nolgellau yn 1800 mae’n crybwyll cyfarfod offerynwyr oedd yn chwarae’r delyn a’r crwth. Dywedodd y rhain wrth Iolo mai Siamas oedd y person cyntaf i wneud telyn deires, ac iddo fod yn delynor i’r Frenhines Anne (m. 1714). Dywed Iolo ‘Roeddent i gyd yn gytûn am y stori, a’i bod yn gyfarwydd iddynt i gyd, ac na ellid ei hamau.’ Er bod Iolo Morgannwg yn enwog ei hunan am greu chwedleuon a ffugio dogfennau hanesyddol, mae’n bosib fod yr hanes yma am Siamas yn ffaith; mae dwy gerdd anhysbys yn cyfeirio ato fel hyn:"Parch yw fy mhwrpas i Elis Shon Siamas Telyniwr mawr urddas, dda fwynwas hy fedd, Pen miwsic holl Gymru am g'weirio ac ar ganu, Fe ddarfu Dduw rannu iddo rinwedd." (1700) "Mae Elis Shon Siamas Yn amgenach i bwrpas Na Richard Elias o lawer." (1705)Wyddech chi? Cydnabyddir heddiw mai Siamas oedd y cerddor cyntaf i lunio telyn deires yng Nghymru. Credir bod ei ddisgynyddion yn dal i fyw yn ardal Dolgellau.