Gwersi Piano gan Eirian
Rhif Ffon: 01341 421 800 / 07776 144 155
Mae gennyf brofiad o ugain mlynedd o addysgu’r piano, ac ‘rwyf yn dysgu plant o bedair oed i fyny; ynghyd ac oedolion. Bydd y gwersi yn cynnwys cerddoriaeth glasurol i pop, jazz a chaneuon traddodiadol Cymreig. Byddaf yn hyfforddi disgyblion ar gyfer arholiadau ABRSM hyd at gradd 8 ymarferol, a gradd 5 theori yw fy arbenigedd. Gwers hanner awr ar sail un i un. Darperir y gwersi yn Nhŷ Siamas ar nos Fawrth.
Billy Thompson – Ty Siamas
Cychwyn yn Nhy Siamas: 2009
Dysgu Oedran: 4 to 74+
Siaradir: Cymraeg a Saesneg
Fiolin (lefel sylfaenol hyd at lefel hyfedr)
Gan mai’r fiolin yw offeryn cyntaf Billy (http://www.billythompson.co.uk), dysgir hwn o lefel cychwynnol (cerddoriaeth gwerin a chlasurol) i’r lefel uchaf gan gynnwys dysgu Gradd 8 Fiolin Glasurol a thu hwnt , gan gynnwys byrfyfyrio. Yn ddiweddar mae Billy wedi dysgu myfyriwr Jazz Ôl Radd o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.
Llwyddiannau lleol yn cynnwys nifer o fyfyrwyr yn eistedd arholiadau a’r virtuoso ifanc Isaac Aldred a enillodd Cerddor Ifanc y Flwyddyn Tywyn pan yn 10 oed.
Gitâr (lefel sylfaenol hyd at lefel uwch)
Ail offeryn Billy yw’r gitâr, sydd wedi bod yn rhan o’i fywyd erioed. Dysgir y gitâr i lefel uwch yn ogystal. Bydd Billy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer eistedd arholiadau Rockschool hyd at Gradd 7. Ymysg y myfyrwyr mae Dalton Foster a lwyddodd yn ddiweddar i ennill ysgoloriaeth i goleg chweched dosbarth yn yr Amwythig, gan arbenigo mewn cerdd.
Jazz Sipsi ydi un arbenigedd sydd gan Billy ac felly mae cerddoriaeth gitâr jazz Django Reinhardt a’i ddull o chwarae yn cael ei astudio’n drylwyr.
Gitâr Fas (lefel sylfaenol hyd canolradd)
Mae Billy yn chwarae gitâr fas yn gyson yn ei stiwdio. Dysgir yr offeryn yma drwy gymysgedd o ddilyn gwersi Rockschool ond hefyd gan annog dealltwriaeth o bwysigrwydd y gitâr fas mewn gwahanol sefyllfaoedd grŵp. (http://www.thompsoundmusic.co.uk).
Mandolin (lefel sylfaenol hyd at lefel uwch)
Mae’r mandolin yn ail offeryn gyffredin i’r fiolin ac felly mae’n dilyn ei fod wedi ffurfio rhan fawr o fywyd cerddorol Billy hyd yma. Astudir nifer o agweddau o chwarae’r mandolin – o berspectif clasurol, gwerin a mwy.
Ukelele (lefel sylfaenol hyd canolradd)
Offeryn delfrydol i bawb o bob oed. Mae’n gallu bod yn ffordd dda o gyflwyno’r gitâr, neu yn offeryn i’w feistroli er ei fwyn ei hun. Ystyrir y ddwy agwedd.
Drymiau (lefel sylfaenol hyd at canolradd/uwch)
Mae Billy wrth ei fodd yn rhoi gwersi drymio ac mae wedi bod yn rhoi gwersi yma yn Nhŷ Siamas a’r ardal ers 2009. Drwy ddefnyddio dull ‘matched grip’ mae Billy yn annog myfyrwyr i ddarllen sgôr drymiau ac mae sawl un o’i fyfyrwyr wedi eistedd arholiadau ar faes llafur Rockschool.
Gallwch gysylltu â Billy ar :
07720 707744 neu billy@thompsonsoundmusic.co.uk