Llogi Ystafelloedd

Pic11.jpeg
Pic9.jpeg
Y Bar 2
Pic12.jpeg
Pic3.jpeg
Y Bar yn Nhy Siamas
Pic6.jpeg
previous arrow
next arrow

Llogi Ystafelloedd

Gellir llogi nifer o’r ystafelloedd ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau. Mae croeso i chi ddod draw i weld yr adnoddau er mwyn ystyried pa ystafell fyddai orau i’ch anghenion. Mae’r ystafelloedd i gyd ar lawr cyntaf yr adeilad, ac mae modd eu cyrraedd gan ddefnyddio’r grisiau llydan neu’r lifft.

YSTAFELL IDRIS

Mae hon yn ystafell aml bwrpas sy’n gallu seddi hyd at 75. Mae nifer o fyrddau o wahanol feintiau/siâp ar gael yn ogystal, ynghyd â seddi cyfforddus.

Gall yr ystafell hefyd gael ei chlirio fel gofod gwag. MAe digon o le yma i gynnal ‘twmpath’ / dawnsio gwerin, ac yn ofod arbennig ar gyfer unrhyw arddangosfa.

Mae’r ystafell hefyd yn addas at gyfer perfformiadau byw, gyda llwyfan parhaol ar gael ynghyd â goleuadau pwrpasol. Gellir trefnu system sain os dymunir.

Mae Ystafell Idris yn cael defnydd cyson gan grwpiau allanol, megis cymdeithasau leol, ynghyd â chartrefu arddangosfa gelf flynyddol gan Gymdeithas Arlunwyr Meirionnydd.

Mae’n ystafell fendigedig ar gyfer arddull ‘cabaret’.

AWDITORIWM

Mae seddi awditoriwm Tŷ Siamas ar ffurf hanner cylch gyda lle ar gyfer 86.

Mae’r Awditoriwm yn ofod addas ar gyfer perfformiadau byw, yn arbennig rhai set acwstic. Mae hefyd wedi llwyfannu cyflwyniadau dramatig, dramâu, darlithoedd, ac yn gartref i ymarferion côr leol.

Mae piano ar gael yn yr Awditoriwm ynghyd â thaflunydd.

Mae Wi-Fi ar gael yn yr ystafell hon.

ARDAL Y BAR

Mae’r bar yn ystafell addas ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol ond yn llai ei maint. Mae’n ystafell fodern ei golwg gyda golygfa dros Sgwâr Eldon o’r llawr cyntaf.

Mae’r bar wedi ei leoli drws nesaf i Ystafell Idris.

Mae modd gosod seddi  ar gyfer hyd at 35; mae byrddau a chadeiriau ar gael yn ogystal â seddi lledr cyfforddus.

Gellir darparu lluniaeth ysgafn ar gyfer cyfarfodydd am gost rhesymol, gyda rhagrybudd.